Canolfan Dreftadaeth
Achyddiaeth

Yn agor 2013

  • Cyfle i gyfarfod cymeriadau ysbrydoledig -
    ddoe a heddiw
  • Atyniad ymwelwyr hanesyddol a chofiadwy
  • Profiad achyddiaeth unigryw a
    chanolfan ymchwil
  • ‘Blas o’r Gorffennol’ - caffi
  • Arddangosfeydd a digwyddiadau
    cymunedol rheolaidd
  • Mannau cyfarfod eithriadol

Archaeoleg
a Darganfod

  • Cyfle i wylio’r gwaith o ddadorchuddio
    preswylfa gynharach o dan Blas Llanelly
  • Daethpwyd o hyd i nifer o bethau ac
    arteffactau yn cwmpasu pedair canrif
  • Darganfuwyd ystafelloedd cudd, selerau dirgel,
    a Llyfr Llythyrau wedi’i ysgrifennu â llaw a mwy
  • Dadorchuddio gwrthrychau cudd o dan waith panelu - gan gynnwys paentiadau o ddechrau’r 1700oedd

Gwirfoddolwch ym
Mhlas Llanelly

  • Dewch i mewn i fyd Plas Llanelly -
    a byddwch yn rhan o’i ddyfodol
  • Helpwch ni ymchwilio a datblygu
    atyniad ymwelwyr ysbrydoledig Llanelli
  • Enillwch fedrau newydd a chymerwch
    ran mewn gweithdai
  • Croeso i bawb, beth bynnag eich
    oed neu lefel medrau

Adfer -
Gorffennol Ymlaen

  • Cyfle i weld medrau adeiladu traddodiadol
    a ddefnyddir i gadw ac adfer y Plas
  • Dilynwch y gwaith o adfer paentiadau
    cudd ac arteffactau coll
  • Gwyliwch wrth i’r ystafell gelf grisaille
    brin gael ei dadorchuddio
  • Gwyliwch y gwaith adfer yn digwydd -
    yn fyw ar YouTube

Canolfan Dreftadaeth
Achyddiaeth

Yn agor 2013

  • Cyfle i gyfarfod cymeriadau ysbrydoledig -
    ddoe a heddiw
  • Atyniad ymwelwyr hanesyddol a chofiadwy
  • Profiad achyddiaeth unigryw a
    chanolfan ymchwil
  • ‘Blas o’r Gorffennol’ - caffi
  • Arddangosfeydd a digwyddiadau
    cymunedol rheolaidd
  • Mannau cyfarfod eithriadol

Hanes a
Threftadaeth

  • Archwiliwch y ‘plasty trefol
    Sioraidd gorau yng Nghymru’
  • Ailadeiladwyd yn helaeth yn
    1714 gan deulu’r Stepney
  • Dilynwch gyfraniad allweddol y Plas
    i dwf busnes a diwydiannol Llanelli
  • Cyfle i gyfarfod cymeriadau anghyffredin
    o’r Plas a’r Dref a wnaeth argraff fyd-eangl
Carmarthenshire Heritage Regeneration Trust Lottery Funded Heritage Projects Welsh European Funding Office Cadw Carmarthenshire Council AHF Llanelly County Council

Plas Llanelly yw curiad calon Llanelli, yn adlewyrchu’r gwych a’r gwachul yn hanes y dref, ac a gofleidiodd y chwyldro diwydiannol a arweiniodd at ffyniant.”

Work progressing on Llanelly HouseDechreuodd prosiect Plas Llanelly o ddifrif yn ystod cyfres ‘Restoration’ y BBC yn 2003, pan gyrhaeddodd yr adeilad y rownd derfynol, gyda chefnogaeth y coegwych Laurence Llewelyn Bowen sydd hefyd wedi ymddangos ar Who Do You Think You Are? ar y BBC gyda Griff Rhys Jones. Taniodd hynny’r syniad o drawsnewid y Plas yn Ganolfan Treftadaeth ac Achyddiaeth lle y gallwch ymchwilio eich llinach deuluol ac a fydd hefyd yn arddangos cymeriadau ysbrydoledig yn hanes Llanelli, ddoe a heddiw. Ers hynny a chyda buddsoddiad ariannol, ymchwil a llawer iawn o waith caled, tyfodd gweledigaeth y Plas yn brosiect a enillodd fri cenedlaethol. Bydd ei ailagor, a ddisgwylir ar ddechrau 2013, yn gamp o waith cymuned, archaeoleg, hanes, cadwraeth, adfer a medrau adeiladu traddodiadol, fydd yn atgyfnerthu hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol Llanelli.

Trwy gydol ei hanes ôl-ganoloesol, bu Plas Llanelly yn ganolbwynt i fywyd y dref ac yn ganolfan sy’n galluogi pobl i olrhain eu gwreiddiau a dathlu eu llwyddiannau. Ac unwaith eto, daw yn Wyneb Llanelli, ac yn wir yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru ac yn arwydd o obaith yn Sir Gaerfyrddin.

Gorffennol sy’n ymwneud â phobl, lle a hunaniaeth y dref – diwydianwyr byd-enwog, byd y boneddigion, peth o’r gwin cyntaf a fewnforiwyd gan Hardy’s, personoliaethau amlwg ym meysydd y celfyddydau, gwyddoniaeth, adloniant a diwydiant a llawer iawn mwy. Bydd ymwelwyr yn cael eu swyno gan y bensaernïaeth unigryw a chan dystiolaeth o dechnegau adeiladu newydd ers ei graidd Jacobeaidd. Gwelodd Plas Llanelly nifer o ychwanegiadau a gwelliannau trwy’r oesoedd, a gynhyrchodd yn y pendraw blasty Sioraidd trawiadol, yr oedd ei bwysigrwydd a’i diroedd yn llywio map y dref ei hun. Archwiliwch Blas Llanelly gyda ni wrth inni symud at ein hagoriad cyhoeddus fydd yn cynnwys un o’r arddangosiadau achyddiaeth mwyaf cyfoes yng ngwledydd Prydain a chyfleoedd i bobl o bob oed ymgolli yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

A gallwch chithau gyfrannu yn awr. Mae gennym lawer o gyfleoedd i wirfoddoli gyda thîm Plas Llanelly neu i ddod i weithdai fydd yn gyfle ichi ddod i wybod mwy am eich gorffennol. Ffoniwch y tîm ar 01554 772857 neu e-bostiwch ni yn y cyfeiriad a ddangosir.